Safonau Proffesiynol newydd: tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Gwerthfawrogwn y cyfle i ymateb i gais y pwyllgor am wybodaeth fwy penodol am y safonau proffesiynol newydd o fewn cyd-destun yr Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon. Mae UCAC yn barod iawn i gynnig gwybodaeth neu dystiolaeth bellach, ar lafar neu’n ysgrifenedig, petai hynny o gymorth i’r pwyllgor.

Atebwn gwestiynau penodol y pwyllgor yn gyntaf, cyn mynd ymlaen i godi rhai pwyntiau eraill.

 

Yr amserlen weithredu arfaethedig; a fydd gan athrawon ledled Cymru yr amser a’r adnoddau angenrheidiol i allu gwir gyflawni yr hyn a ddisgrifir yn y Safonau newydd erbyn mis Medi 2018?

 

·         Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG)

 

Mae’r amserlen ar gyfer ANGiaid yn amlwg yn gyflymach nag ar gyfer unrhyw grŵp arall, gydar safonaun weithredol o nawr ymlaen (mis Medi 2017).

 

Ar y cyfan, mae UCAC yn cytuno ag egwyddor yr amserlen gyflym. Ni fyddai’n synhwyrol i’r grŵp hwn o athrawon ddechrauu cyfnod yn y gweithlu gan ddefnyddio set o safonau sydd ar fin darfod. Byddair broses o ymgyfarwyddo ag un set, ac wedyn trosglwyddo o fewn y flwyddyn i set wahanol yn golygu ymdrech a dryswch diangen.

 

Yn ogystal, mae’n debygol y bydd nifer o ysgolion yn defnyddio’r flwyddyn 2017-18 fel cyfle i ymgyfarwyddo â’r safonau newydd, ac i drosglwyddo’n raddol iddynt, felly, unwaith eto, ni fyddai’n ddymunol bod yr ANGiaid yn gaeth i’r hen drefn.

 

Yn wir, mi allai’r ffaith o gael athrawon ifanc o fewn yr ysgol (a’u mentoriaid) sy’n defnyddio’r safonau newydd hwyluso’r broses o ymgyfarwyddo a throsglwyddo i weddill y staff, yn enwedig os byddant wedi derbyn hyfforddiant penodol.

 

Wedi dweud hynny, rhaid bod yn ymwybodol fod yr amserlen hon yn uchelgeisiol mewn perthynas ag amserlen cyhoeddi’r safonau terfynol. Nodwn nad yw’r bwlch amser rhwng y cyhoeddi a’r cyflwyno’n ddelfrydol o bell ffordd mewn perthynas ag ANGiaid. Bydd hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar fentoriaid ymsefydlu (o fewn ysgolion) yn arbennig.

 

Gan fod disgwyliad ar ysgolion i weithredu’r safonau newydd yn syth ar gyfer ANGiaid, hyderwn y bydd y sawl sy’n gosod yr amserlen, ynghyd â sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill, yn cadw eu hochr hwythau o’r fargen ac yn darparu’r elfennau hanfodol canlynol yn unol â’r amserlen sydd wedi’i gosod, hynny yw o 4 Medi ymlaen:

 

§  Proffil Dechrau Gyrfa/Proffil Ymsefydlu Statudol/Pasbort Dysgu

 

§  Proffesiynol wedi’u diweddaru at y diben ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg

 

§  canllawiau clir a deunydd cefnogi ynghylch sut i ddefnyddio’r safonau newydd

 

§  hyfforddiant digonol, i fentoriaid (mentoriaid ymsefydlu o fewn yr ysgolion, a gwirwyr allanol o fewn y consortia rhanbarthol), arweinwyr ysgol (sy’n goruchwylio’r broses ymsefydlu), ac i lywodraethwyr (sydd â’r cyfrifoldeb o ddyfarnu a yw’r ANG wedi cwblhau’r cyfnod ymsefydlu’n foddhaol); mae hyn yn bwysicach byth o ystyried mai dyma fydd y cysylltiad uniongyrchol cyntaf y caiff llawer o ysgolion gyda’r safonau newydd

 

§  bod popeth ar gael yn y ddwy iaith o’r cychwyn cyntaf

 

·         Athrawon o fewn y gweithlu

 

Mae UCAC yn cyd-fynd â’r amserlen ar gyfer athrawon o fewn y gweithlu, sy’n neilltuo’r flwyddyn ysgol 2017-18 ar gyfer ymgyfarwyddo a dechrau ar y gwaith o drosglwyddo, gyda chychwyn ffurfiol, gorfodol ym mlwyddyn ysgol 2018-19. Mae hynny’n amserlen resymol a realistig ym marn yr undeb.

Rydym yn gwbl gyffyrddus â’r ymagwedd hyblyg o ran amserlen at ddechrau gweithredu’r safonau newydd o fewn y 12 mis nesaf, gan roi cyfrifoldeb/rhyddid i ysgolion (ac athrawon unigol) bennu’r amserlen sy’n gweddu orau i’w trefniadau mewnol nhw, yn dibynnu ar gylchoedd Rheoli Perfformiad, amser i baratoi a chael hyfforddiant digonol, ac ati.

Mi fydd yn hollbwysig bod pawb sy’n gorfod defnyddio’r safonau newydd yn cael cyfle i ymgyfarwyddo â nhw, ac i fagu hyder yn y dulliau newydd o’u defnyddio. Gan fod pwyslais newydd ar gymryd cyfrifoldeb personol dros ddysgu proffesiynol, mi fydd ymdeimlad o hyder unigol yn anhepgorol i’r math o ymreolaeth a fwriedir.

Nid ydym yn cyd-fynd â’r awgrym gan rai yn ystod yr ymgynghoriad y dylid aros am gyflwyniad y cwricwlwm newydd er mwyn cyflwyno’r safonau newydd. Oes, mae perthynas rhwng y ddau beth, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr; mae UCAC wedi bod yn pwyso am ddatblygiadau polisi mwy cydlynol ers blynyddoedd, ac rydym yn teimlo bod hynny ar waith ar hyn o bryd mewn ffordd na welwyd ers blynyddoedd lawer. Ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu cyflwyno popeth ar yr un pryd. Teimlwn fod cyflwyno newidiadau yn bwyllog ac yn drefnus dros gyfnod yn gosod disgwyliad llawer fwy rhesymol a realistig ar ysgolion a’r gweithlu, yn enwedig os yw un cam yn paratoi’r tir ar gyfer y cam nesaf – fel y credwn sy’n wir yn yr achos hwn.

 

·         Addysg Gychwynnol i Athrawon

 

Yr amserlen mewn perthynas â chyrsiau addysg gychwynnol i athrawon sy’n peri’r fwyaf o bryder i UCAC.

 

Teimlwn fod cychwyn gorfodol o fis Medi 2019 yn llawer rhy hwyr mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer gweddill y gweithlu. Hyd yn oed gyda chyrsiau TAR, sy’n para blwyddyn yn unig, bydd ANGiaid yn ymuno â’r gweithlu ym mis Medi 2020 sydd wedi bod yn gweithio yn erbyn yr hen safonau, ac yn gorfod newid i’r safonau newydd a hynny dair blynedd gyfan wedi i’r ANGiaid cyntaf drosglwyddo i’r safonau newydd. Yng nghyd-destun cyrsiau BAdd, gallant fod yn ymuno â’r gweithlu yn 2022 -  pum mlynedd yn hwyrach na’r ANGiaid cyntaf.

 

Mae UCAC yn deall mai’r broses o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon sydd wrth wraidd y penderfyniad ynghylch yr amserlen. Ond ni allwn ond teimlo y dylai fod yn bosib gosod amserlen sy’n gofyn am gyflwyno’r safonau ynghynt yn y broses.

 

Yn y bôn nid yw’n rhesymegol i gynhyrchu a darparu ANGiaid sydd ar eu hôl hi mewn perthynas â’r safonau (nac mewn perthynas ag unrhyw ddiwygiad arall i’r system addysg) o’u cymharu ag athrawon sydd eisoes yn y gweithlu. Mae addysg gychwynnol, yn ei hanfod, yn gyfle i ddarparu athrawon newydd i’r gweithlu sydd â dealltwriaeth hollol gyfredol o ofynion system addysg Cymru. Mi fyddai, nid yn unig, yn gyfle wedi’i golli i’w trwytho yn y system newydd, ond yn ogystal, yn creu gwaith diangen i’r ANGiaid eu hunain ac i’w mentoriaid wrth geisio trosglwyddo i’r system newydd, a hynny yn ystod blwyddyn brysur, drwm a dwys iawn.

 

Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, wedi cytuno i “weithio gyda’r sector addysg gychwynnol i athrawon i edrych ar y posibilrwydd o symud i’r safonau newydd o fis Medi 2018, cyn iddynt fod yn gymwys yn ffurfiol o fis Medi 2019.”

 

Fodd bynnag, teimlwn yn gryf bod hynny hyd yn oed yn rhy araf, a bod angen i gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon gymhathu’r safonau newydd cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib (yr un amserlen ag ysgolion – blwyddyn 2017-18 i bontio, a blwyddyn 2018-19 i gyflwyno’n orfodol?), er mwyn i fyfyrwyr dan hyfforddiant ac ANGiaid ymuno â’r gweithlu gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Awgryma UCAC y dylai bod yna ddyddiad penodol ar gyfer y gweithlu cyfan pan mae’r hen safonau’n darfod.

A oes, neu a yw’n debygol y bydd, digon o gefnogaeth a hyfforddiant i helpu athrawon i drosglwyddo i’r safonau newydd?

 

Er mwyn trosglwyddo i’r safonau newydd, ac er mwyn i’r trosglwyddiad fod yn esmwyth ac i’r drefn newydd weithio fel y rhagwelir, bydd nifer o elfennau’n angenrheidiol:

 

·         canllawiau clir ynghylch sut i’w defnyddio, gan gynnwys sut i beidio â’u defnyddio

·         cyfathrebu clir a chyson o bob cyfeiriad a phob lefel ynghylch sut i ddefnyddio/peidio â defnyddio’r safonau

·         hyfforddiant, gan gynnwys ar gyfer arweinwyr ysgol, llywodraethwyr ac ymgynghorwyr her y consortia rhanbarthol

·         gofod digonol, o ran amser yn arbennig, i ymarferwyr gael myfyrio ar y safonau, cyd-drafod a chydweithio i rannu a datblygu sgiliau; dylid sicrhau fod amser cyson wedi’i neilltuo at y pwrpas

 

Mae’r pwyntiau uchod yn amlygu’r mannau gwan posib wrth weithredu’r drefn a’r ethos newydd. Hynny yw, mi fyddai unrhyw ddiffygion o ran canllawiau clir a negeseuon cyson yn siŵr o arwain at gamddealltwriaethau a chamddefnydd or safonau newydd. Rydym, fel undeb, wedi gweld enghreifftiau o hyn mewn perthynas â meysydd polisi eraill (ac yn wir, mewn perthynas â’r Safonau Athrawon wrth eu Gwaith). Rhaid bod yn arbennig o ofalus bod ymgynghorwyr her y consortia rhanbarthol yn gyson ac yn gywir eu pwyslais wrth gyfathrebu gydag ysgolion ynghylch y safonau newydd.

 

Mae llywodraethwyr yn aml yn mynd yn angof, ond bydd sicrhau fod ganddynt ddealltwriaeth gywir a thrylwyr o’r safonau newydd a’r ffordd y dylid eu gweithredu yn hanfodol ar gyfer gweithredu effeithiol.

 

Un o’r bygythiadau pennaf y rhagwelwn yw diffyg amser digonol ar gyfer y math o fyfyrio a chyd-drafod sy’n greiddiol i weledigaeth y drefn newydd. Mae hyn yr un mor wir, os nad yn fwy felly, ar gyfer y safonau arweinyddol ffurfiol. Efallai y caiff hyn ei wau mewn i drefniadau’r cwricwlwm newydd, ond ni welwn ar hyn o bryd ble a phryd bydd modd i ymarferwyr cael y gofod syniadaethol angenrheidiol yng nghanol y gofynion dydd-i-ddydd gwbl lethol.

 

Materion eraill

 

·         Rheoli Perfformiad
Un mater ble fydd angen gofal arbennig o ran canllawiau a negeseuon yw’r cydberthynas – os oes ‘na gydberthynas – rhwng y safonau newydd a’r drefn Rheoli Perfformiad. Mae peryglon o gamddealltwriaeth a chamddefnydd sylweddol yn y maes hwn, ac am y rheswm hynny, rhaid gochel rhag unrhyw amwysedd. Mae hyn yn wir am brosesau Medrusrwydd yn ogystal.

·         Addysg Bellach
Er ein bod ni’n deall y rhesymau am fynd ar drywydd gwahanol o ran datblygu’r safonau proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg bellach (AB) a dysgu seiliedig ar waith (DSW), teimlwn fod cyfle wedi’i golli o ran gwneud ymgais i ddod o hyd i’r egwyddorion/arferion/gwerthoedd cyffredin. Rhagwelwn y gallai anawsterau ymarferol godi yn sgil y broses datblygu a’r ymagwedd wahanol. Er enghraifft, mae’r safonau ar gyfer athrawon ysgol yn berthnasol i drothwyon Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) ac Athro Newydd Gymhwyso (ANG); nid yw’n debygol y bydd yr un peth yn wir yn achos y safonau AB/DSW. Bydd angen ystyried beth yw’r safonau y bydd myfyrwyr ar gyrsiau TAR (AB) a chyrsiau eraill cyfatebol yn gorfod cwrdd â nhw. Mae’n anodd osgoi’r casgliad bod angen cyfatebiaeth o ryw fath rhwng y safonau ar gyfer myfyrwyr TAR, boed yn TAR ‘ysgol’ neu AB.

 

·         Geiriad
Er bod geiriad y safonau newydd wedi’u mireinio dros gyfnod, a hynny mewn ymgynghoriad â’r gweithlu, rydym yn parhau i bryderu fod ambell un o’r safonau wedi’u geirio mewn ffordd astrus, a fydd yn peri anawsterau wrth geisio dehongli a gweithredu; maent fel petai’n ceisio cymhathu gormod mewn un frawddeg ,

­   Enghraifft 1: Mae’r athro’n deall pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu yn y gwaith o hyrwyddo arferion ac ymddygiadau dysgu cadarnhaol sy’n cyd-fynd â’r pedwar diben ac y mae dysgwyr yn eu deall yn y cyd-destun hwnnw. Mae felly’n mynd ati i’w ymsefydlu a’i reoli’n effeithiol ac yn barhaus.

­   Enghraifft 2: Mae dysgwyr yn cael eu galluogi i ddeall sut mae eu ffocws ar les personol a’u hysgogiad ar gyfer canlyniad, cyfrwng ac ansawdd priodol yn cael effaith o ran defnyddioldeb at y diben a’r gynulleidfa.

 

·      Y Gymraeg
Bydd angen cadw golwg ar ba mor effeithiol yw’r disgrifydd ynghylch sgiliau yn y Gymraeg; nid yw UCAC wedi’i ddarbwyllo’i fod yn ddigon cadarn o ystyried yr angen i Gymreigio gweithlu’n gyflym iawn i fodloni’r gofynion presennol heblaw am y diwygiadau sydd ar y ffordd